Rhif y ddeiseb: P-06-1293

Teitl y ddeiseb: Dylid darparu cyllid ar gyfer mynediad cyffredinol i Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn.

Geiriad y ddeiseb: Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn cant y cant ledled y wlad, gyda sicrwydd ansawdd. Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn yw'r safon fyd-eang ar gyfer trin osteoporosis ac atal toriadau esgyrn, ond mae mynediad at y gwasanaethau yn loteri cod post. Goblygiadau hyn yw y bydd miloedd o bobl sy'n byw ar ochr anghywir llinell ddalgylch yn dioddef toriadau asgwrn cefn a chlun sy'n newid eu bywydau. Gall Llywodraeth Cymru drawsnewid y sefyllfa drwy osod cyfeiriad strategol clir o’r brig, gyda chymorth cyllid cymedrol ar gyfer Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn a chymhellion synhwyrol.

 

Mae toresgyrn (esgyrn wedi torri) a achosir gan osteoporosis yn un o'r bygythiadau mwyaf difrifol i fyw'n dda yn ddiweddarach mewn bywyd. O'i adael heb ei drin, mae osteoporosis yn bygwth ein rhyddid, ein hurddas, ein hansawdd bywyd a'n hannibyniaeth. Gyda diagnosis cynnar a’r driniaeth gywir, gall pobl sydd ag osteoporosis fyw’n dda, o gael meddyginiaethau diogel ac effeithiol sy’n hynod fforddiadwy i’r GIG. Ond o ganlyniad i golli cyfleoedd o ran diagnosis ac ymyrraeth gynnar mae miloedd o bobl ledled Cymru yn colli’r cyfle i gael y feddyginiaeth cryfhau esgyrn sydd ei hangen arnynt. Mewn cais Rhyddid Gwybodaeth diweddar, canfu’r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol (ROS) mai dim ond pedwar allan o saith Bwrdd Iechyd a allai gadarnhau bod ganddynt Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn (ac nid yw pob un o’r rhain yn cwmpasu’r boblogaeth gyfan). Mae'r Gymdeithas Osteoporosis yn amcangyfrif y byddai cynyddu'r ddarpariaeth Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn ar gyfer Cymru gyfan yn costio tua £2 filiwn y flwyddyn. Dros y pum mlynedd nesaf, byddai hyn yn arbed tua £25 miliwn i’r GIG a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol, yn atal dros 1,200 o achosion o dorri clun, ac yn rhyddhau dros 34,000 o ddyddiau o ran gwelyau mewn ysbytai acíwt.

 

 


1.        Cefndir

Mae’r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol (ROS) yn datgan bod osteoporosis yn effeithio ar ddynion a merched ac yn arwain at esgyrn bregus, a all wedyn arwain at dorri esgyrn brau. Mae torri esgyrn fel hyn yn digwydd ar ôl trawma isel, fel mân gnoc neu gwymp na fyddai fel arfer yn achosi asgwrn i dorri. Mae’r toriadau hyn o ganlyniad i ddwysedd esgyrn isel a dirywiad strwythurol meinwe esgyrn.

Mae’r ROS hefyd yn datgan y gellid atal llawer o doriadau esgyrn brau trwy ymyriadau amserol i leihau'r risg o dorri asgwrn. Mae Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn (FLS) yn systematig yn nodi, yn trin ac yn cyfeirio at wasanaethau priodol yr holl gleifion cymwys dros 50 oed o fewn poblogaeth leol sydd wedi dioddef toriad brau, gyda’r nod o leihau eu risg o dorri asgwrn wedi hynny.

Mae gan yr FLS gydlynydd penodedig (Nyrs Glinigol Arbenigol fel arfer) sy’n gweithio i brotocolau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw i ganfod achosion ac yna asesu cleifion sydd wedi torri asgwrn. Gall y gwasanaeth fod wedi’i leoli mewn unrhyw leoliad gofal iechyd, naill ai mewn ysbyty neu y tu allan i’r ysbyty, ac mae angen cymorth gan ymarferydd â chymwysterau meddygol (yn nodweddiadol meddyg ysbyty neu feddyg teulu ag arbenigedd mewn osteoporosis ac atal toriadau esgyrn brau).

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mewn llythyr at y Pwyllgor Deisebau ar 2 Medi 2022, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl werthfawr sydd gan FLS o ran darparu ymyrraeth gynnar, mynediad hawdd at ofal osteoporosis a lleihau’r risg o dorri esgyrn pellach.

Mae’r Gweinidog yn nodi bod Dr Inder Singh, yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Cwympiadau ac Eiddilwch yng Nghymru, wedi blaenoriaethu’r gwaith hwn o fewn Grŵp Strategol y Rhaglen Archwilio Genedlaethol ar gyfer Toresgyrn yn sgil Cwympiadau ac Eiddilwch. Ar ôl i Adroddiad Blynyddol Cronfa Ddata’r Gwasanaethau Cyswllt, gael ei gwblhau gan Goleg Brenhinol y Meddygon, a’i gyhoeddi ym mis Ionawr 2022, dechreuodd Dr Singh adolygu’r gwasanaethau a ddarperir ar draws Cymru, gan nodi arweinydd archwilio o fewn pob bwrdd iechyd. Roedd yr adolygiad hwn yn rhoi darlun clir o’r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd ledled Cymru, gan helpu i amlinellu’r amrywio sy’n digwydd o ran mynediad, a’r ystod o wasanaethau y mae’r deisebydd yn cyfeirio atynt.

I gefnogi’r maes gwaith hwn, sefydlwyd Grŵp Datblygu a Sicrhau Ansawdd FLS, sy’n cynnwys ystod eang o randdeiliaid allweddol gan gynnwys arweinwyr archwilio’r FLS. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 20 Gorffennaf 2022 a chanolbwyntiodd ar ganlyniadau’r archwiliad cenedlaethol, gwella a chefnogi’r broses o ddarparu gofal ledled Cymru a lleihau’r risg o dorri esgyrn dilynol i gleifion sydd wedi torri asgwrn yn ddiweddar oherwydd breuder. Dywedir bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol (ROS) ac yn gwrando ar leisiau cleifion er mwyn sicrhau bod ganddi ddarlun clir am sut y mae’r gwasanaethau hyn, neu’r diffyg mynediad teg at y gwasanaethau hyn, yn effeithio ar y boblogaeth.

Mae’r Gweinidog yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wrthi’n trefnu cynhadledd genedlaethol i ddathlu Diwrnod Osteoporosis y Byd ac yn sicrhau bod y byrddau iechyd yng Nghymru yn ymrwymedig i ddatblygu gwasanaethau cyswllt torri esgyrn ar draws Cymru. 

Mae’r Gweinidog yn mynd ymlaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella effeithiolrwydd y ddarpariaeth gofal osteoporosis yn ei gwasanaethau presennol, gan weithio i ddatblygu’r ardaloedd hynny lle nad oes gwasanaethau ar hyn o bryd. 

Y byrddau iechyd sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ar gyfer eu poblogaeth, ac mae’r Gweinidog yn nodi ei bod yn briodol bod cyllid ar gael drwy eu hadnoddau nhw. Nodir y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i sicrhau bod pwysigrwydd y gwasanaethau cyswllt torri esgyrn yn cael ei gydnabod o fewn eu gwasanaethau gan barhau i dalu sylw manwl i’r cynnydd a wneir.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.